
Cydraddoldeb i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol mewn Chwaraeon yng Nghymru
Ein gweledigaeth ni yw creu cymuned chwaraeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDaT) ffyniannus yng Nghymru, lle mae unigolion yn teimlo bod croeso iddynt ac yn teimlo’n ddiogel rhag unrhyw fath o wahaniaethu yn eu herbyn.
Rydym yn credu y dylai pawb allu cymryd rhan mewn chwaraeon a’u mwynhau, pwy bynnag ydyn nhw a beth bynnag yw eu cefndir. Felly, rydym wedi ymrwymo i’r canlynol:
Annog a chefnogi cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol o gefnogwyr, swyddogion, gwirfoddolwyr, hyfforddwyr, staff a chyfranogwyr o bob cymuned i ymuno â’r teulu chwaraeon drwy wneud y canlynol:
1
Hybu cysylltiadau cadarnhaol yn ein cymunedau chwaraeon, goresgyn rhwystrau ac annog cydlyniant drwy ddangos cefnogaeth glir i gydraddoldeb LHDaT yn ein camp ein hunain ac mewn chwaraeon eraill.
2
Ymgysylltu â’r gymuned LHDaT a goresgyn y rhwystrau sy’n atal cymryd rhan drwy hyrwyddo manteision ein camp ein hunain a chwaraeon eraill.
3
Gweithio ar fentrau cydraddoldeb, gan gynnwys cyfeiriadedd rhywiol, i greu mwy o ymwybyddiaeth a gwell dealltwriaeth o faterion LHDaT mewn chwaraeon ymhlith cefnogwyr, swyddogion, gwirfoddolwyr, hyfforddwyr, staff a chyfranogwyr.
4
Annog a rhannu arferion da yn ein camp ein hunain ac mewn chwaraeon eraill, addysg a chyflogaeth.
5
Cefnogi a mynd ati’n rhagweithiol i gyfrannu at waith y Rhwydwaith Chwaraeon LHDaT. Rhoi adborth ar bolisïau, arferion a mentrau perthnasol sy’n gysylltiedig ag agendâu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein camp ein hunain neu yn y byd chwaraeon yn gyffredinol.
OND, YN BWYSICACH NA DIM:
Rydym wedi ymrwymo i bolisi o ddim goddefgarwch i homoffobia, deuffobia a thrawsffobia yn ein camp ein hunain ac mewn chwaraeon eraill, boed yn y standiau, yn ystod cystadleuaeth neu ymysg swyddogion, hyfforddwyr, staff a gwirfoddolwyr.
Mae’r neges yn syml: MAE HOMOFFOBIA, DEUFFOBIA A THRAWSFFOBIA MEWN CHWARAEON YN ANNERBYNIOL