

Caernarfon Celts Wheelchair Basketball Club
Club Biography
Dechreuodd Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn Celts Caernarfon ar ddechrau mis Tachwedd 2011 o fewn ymateb i ddatblygiad pêl-fasged cadair olwyn yng Ngogledd Cymru.
Penderfynodd y clwb greu sesiwn ar wahan ar nos Fawrth gan fod gymaint o alw.
Yn wreiddiol dim ond cymryd rhan o fewn y cynghrair cyfeillgar Gogledd Cymru oedd y clwb, ond yn 2014 cymerodd y clwb gam enfawr ac aeth 2 o chwaraewyr iau i'r treial Dan 15 Cymru. Roedd y ddau chwaraewr iau yn llwyddiannus i wneud y Sgwad Cymru. Yn 2015 rydym wedi gallu gwella hyn gyda 3 chwaraewyr iau sy'n chwarae ar y Sgwad Cymru. Yn 2015 roedd chwaraewyr wedi llofnodi i Gynghrair Genedlaethol ac yn 2016, cymerodd 2 chwaraewyr benywaidd ran mewn Cynghrair Merched.
Fel clwb rydym yn hynod o falch ac ni allem redeg heb gefnogaeth ein hyfforddwyr, gwirfoddolwyr ac aelodau. Ein prif gred yw ymarfer yn galed a chael hwyl. Rydym yn un o'r ychydig glybiau yng Ngwynedd sydd yn anelu at gwblhau'r wobr Insport Aur Chwaraeon Anabledd Cymru.
Mae ein hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr wedi cwblhau nifer o gyrsiau gan gynnwys hyfforddiant anabledd cynhwysiant, cymorth cyntaf, diogelu ac amddiffyn plant, a chymwysterau hyfforddi.