
Rhondda Ladies Hockey Club
Club Biography
Sefydlwyd y clwb yn 1980 ac mae'n glwb cymunedol wedi ei leoli ym Mhontypridd yng Nghymoedd De Cymru. Dros y 35 mlynedd diwethaf mae'r clwb wedi chwarae mewn nifer o leoliadau gwahanol yng Nghymoedd y Rhondda ac wedi bod ym Mhontypridd ers 20 mlynedd. Un tîm yn unig oedd yn perthyn i'r clwb ar ôl ei sefydlu, ond erbyn heddiw mae tri thîm hŷn a dau dîm ieuenctid.
Mae bechgyn hefyd erbyn hyn yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarfer, a cheir dros 60 o chwaraewyr i gyd. Yn ogystal, mae gan y clwb dîm Masters gyda nifer o chwaraewyr yn chwarae mewn categoriau o wahanol oedran yng ngharfan Masters Cymru. Bydd y chwaraewyr yma yn teithio i Awstralia ym mis Mawrth 2016 i gystadlu gyda Masters Cymru yng Nghwpan y Byd.
Clwb Hoci Merched y Rhondda oedd y cyntaf i ennill gwobr 'Clwb y Flwyddyn' a hynny yn ystod Noson Wobrwyo Hoci Cymru fel cydnabyddiaeth am ddatblygiad y clwb, menter ac am ddangos esiampl i glybiau eraill.
Mae’r clwb yn weithgar gyda'r Fforwm POD lleol ac yn glwb ffocws i Hoci Cymru yn ogystal. Yn ddiweddar, derbyniodd y clwb gymhwyster rhuban Insport er mwyn cyflawni’r athroniaeth o fedru cynnig hoci i bawb ar bob lefel a gallu. Rydym yn glwb yng ngwir ystyr y gair ac yn gweithio’n galed gyda’n gilydd i geisio creu’r amgylchedd gorau posib i bawb sy’n cymryd rhan mewn hoci.
Athroniaeth:
Mae’r clwb yn cynnig hoci cyfartal a chynhwysol ac yn croesawu chwaraewyr o bob sgil a gallu i deulu hoci Clwb Merched y Rhondda. Rydym yn:
- Glwb agored
- Yn glwb croesawgar
- Yn glwb teuluol
- Yn glwb cymunedol
Rydym yn mwynhau cymdeithasu ac yn angerddol iawn am y gêm.